bbc cymru'r byd - radio cymru - ffeithiau 1981

bbc cymru'r byd - radio cymru - ffeithiau 1981 hometvradiotalkwhere i livea-z indexmawrth13eg tachwedd 2007hygyrcheddgeiriau yn unig bbc homepagecymru'r byd radio cymru ar y marc blas bois y loris bwrw golwg c2 cofio cyflwynwyr digwyddiadur dweud ei ddweud dylan a meinir geraint lloyd gwybodaeth jonsi podlediadau rhaglenni siân thomas taro'r post y talwrn cysylltu ymatebcymorthwedi mwynhau'r ddalen hon?anfonwch hyn at gyfaill!  dyma 1981y penawdau, y pethau, y bobl... plaid newydd yr sdp clicwch ar bwnc: cymru y byd cerddoriaeth celfyddydau ffilmiau teledu a radio chwaraeon gwyddoniaeth ffordd o fyw marwolaethau cymru dechrau un o straeon mawr yr 80au... aeth 36 merch a 4 dyn ar daith heddwch o gaerdydd i gomin greenham i brotestio yn erbyn bwriad i ddod â thaflegrau cruise i'r gwersyll milwrol yno. clymodd pedair o'r merched eu hunain wrth ffens y gwersyll... cyn diwedd y ddegawd byddai degau o filoedd o ferched wedi protestio yno. carcharwyd un o drefnwyr sinn fein yn ne cymru. roedd gerry maclaughlin yn athro mathemateg yn ysgol gyfun glyn ebwy ac yn gyn-fyfyriwr yn aberystwyth. barnodd y rheithgor ef yn euog o gynllwynio i achosi ffrwydradau yng ngogledd iwerddon. wedi 36 mlynedd yn llywydd plaid cymru ymddeolodd gwynfor evans, gan adael dau as y blaid i frwydro am y teitl. llwyddodd dafydd wigley o'r adain fwy traddodiadol i guro dafydd elis thomas, cynrychiolydd y chwith sosialaidd. arweiniodd hyn at flynyddoedd o ddadlau. datgelodd ffigurau'r cyfrifiad mai gwynedd oedd yr unig sir yng nghymru gyda mwyafrif o'r boblogaeth yn siarad cymraeg. ar yr un pryd, ddangosodd ffigurau fod mwy na 2,000 o blant o loegr wedi symud i mewn i ysgolion cymru yn ystod y flwyddyn. roedd y blaid newydd ddemocrataidd yr sdp a ffurfiwyd yn 1981 yn cynnwys 3 o aelodau seneddol llafur cymraeg. y 3 oedd tom ellis o wrecsam, jeffrey thomas o abertyleri ac ednyfed hudson davies o gaerffili. cafodd cymdeithas yr iaith gymraeg gadeirydd newydd meri huws. dyma'r ferch gyntaf i gael y swydd. yn 2004 fe ddaeth yn gadeirydd bwrdd yr iaith, yr ail berson i ddal y ddwy swydd. dechrau gofidiau... y bwrdd glo yn cyhoeddi bwriad i gau mwyafrif pyllau glo de cymru. erbyn rhagfyr 1981, daeth yr arweinydd tanllyd, arthur scargill, yn llywydd undeb y glöwyr. landiodd denis thatcher, gŵr y prif weinidog, mewn helynt ar ôl sgrifennu at ysgrifennydd cymru, nicholas edwards, yn gofyn am gefnogaeth i ddatblygiad tai yn harlech. roedd yn un o gyfarwyddwyr y cwmni datblygu ac roedd y llythyr yn dechrau, 'dear nick'. roedd helynt tros dai yn ynys môn hefyd gyda'r cyngor dosbarth yn herio'r swyddfa gymreig rhag datblygu pellach ar dai yn y gaerwen. cwmni dur duport yn diswyddo mwy na mil o weithwyr o ardal llanelli. fe fu gwragedd y gweithwyr yn arwain ymgyrch frwd, ond seithug, i achub y gwaith. y byd llys yn sheffield yn carcharu peter sutcliffe, y 'yorkshire ripper', ar ôl ei gael yn euog o ladd 13 o fenywod rhwng 1975 ac 1980. ddaeth ronald reagan yn arlywydd ar yr unol daleithiau ac, ar yr un diwrnod cafodd 52 o wystlon americanaidd eu rhyddhau yn iran wedi 444 diwrnod yn gaeth. yn ddiweddarach yn y flwyddyn, byddai dyn yn ceisio saethu'r arlywydd. bu terfysg ymhlith cymunedau croenddu yn toxteth, lerpwl, ym moss side, manceinion, ac yn brixton, llundain. roedd pobl yn taflu bomiau petrol, yn anrheithio siopau lleol, ac yn aml yn ymosod ar yr heddlu. roedden nhw'n protestio yn erbyn hiliaeth ac annhegwch. deg aelod o'r ira yn marw wedi ympryd yng ngharchar y maze neu 'long kesh' yng ngogledd iwerddon. bobby sands oedd y cynta' i farw wedi 66 diwrnod o ymprydio. roedd hefyd wedi cael ei ethol yn aelod seneddol. y pab john paul ii yn cael ei saethu a bron yn cael ei ladd gan mehmet ali agca yn sgwâr san pedr yn rhufain. gafodd arlywydd yr aifft anwar sadat ei lofruddio gan aelodau o jihad islamaidd yr aifft oedd yn gwrthwynebu ei drafodaethau ag israel. bom car yn ffrwydro y tu allan i lysgenhadaeth irac yn beirut, prifddinas libanus, gan ladd 61 o bobl. dyma'r hunanfomwyr modern cynta'. syria a gafodd y bai. ddiwedd y flwyddyn, gafaelodd trychineb bad achub yn nychymyg y bobl. collwyd wyth o griw bad achub penlee yng nghernyw wrth iddyn nhw geisio'n aflwyddiannus i achub wyth oedd ar long ynghanol storm ofnadwy. cerddoriaeth yn gymraeg ... dafydd iwan yn rhyddhau ei record hir 'dafydd iwan ar dân' ac yna'n dechrau ei daith gynta' gyda'r band ar log. hynny'n rhoi bywyd newydd i'w yrfa. y band ail symudiad o aberteifi yn brysur wrth ryddhau 3 record yn ystod y flwyddyn ac yn ennill gwobr 'prif grŵp roc' yng ngwobrau cerddoriaeth y cylchgrawn sgrech. y grŵp roc trwm y diawled yn ffurfio. y canwr oedd darpar-gyflwynydd radio o'r enw kevin davies. y babell roc gyntaf yn cael ei chyflwyno ar faes yr eisteddfod ym machynlleth. ymhlith enillwyr eraill gwobrau sgrech, roedd: pererin (prif grŵp gwerin) meic stevens (prif ganwr unigol) rhiannon tomos (prif gantores unigol) ficar (grŵp addawol y flwyddyn) dafydd gwyndaf, disgo'r ddraig goch (gwobr arbennig sgrech) ac yn saesneg... ar awst 1, lansiwyd y sianel deledu mtv. y gân gyntaf a gafodd ei chwarae oedd 'video killed the radio star' gan buggles. trefnodd simon a garfunkel gyngerdd aduniad yn central park, efrog newydd, o flaen torf o 500,000. daeth 'synth pop' yn boblogaidd yng ngwledydd prydain gyda bandiau fel ultravox, depeche mode a human league. bandiau fel culture club, mötley crüe a metallica yn ffurfio, tra bod wings, grŵp paul mccartney, yn chwalu. dyma rifau 1 y flwyddyn: imagine - john lennon shaddup you face - joe dolce jealous guy - roxy music this ole house a green door - shakin' stevens making your mind up - bucks fizz stand and deliver a prince charming - adam and the ants being with you - smokey robinson one day in your life - michael jackson ghost town - specials tainted love - soft cell it's my party - dave stewart gyda barbra gaskin under pressure - queen a david bowie don't you want me - human league celfyddydau theatre wales yn cael ei sefydlu, a theatr y castell yn agor yn aberystwyth. dechreuodd dwy gyfres bwysig o lyfrau yn ystod y flwyddyn: cyfres y cewri - cyfres o hunangofiannau. dafydd iwan oedd gynta'. pigion talwrn y beirdd - goreuon y gyfres radio. roedd disgwyl mawr am nofel newydd alun jones, pan ddaw'r machlud, a rhiannon davies jones, eryr pengwern. roedd dwy gyfrol hanes bwysig yn saesneg am gymru: the north wales quarrymen 1874-1922 gan r. merfyn jones a rebirth of a nation gan k.o morgan. fe fu cythraul canu o fath gwahanol wrth i gôr o gymru fynd i dde affrica i ganu, ar waetha' protestiadau. fe wnaethon nhw alw eu hunain yn gôr y jonesiaid, er mwyn cuddio pwy oedd yr aelodau. tri john a enillodd y prif wobrau llenyddol yn eisteddfod genedlaethol machynlleth. aeth y gadair i'r darpar archdderwydd, john gwilym jones, a'r fedal ryddiaith i ddarpar brifardd, john griffith jones. roedd john aled owen wedi newid ei enw i sion aled erbyn iddo yntau gipio'r goron. yng nghastellnewydd emlyn yr oedd eisteddfod genedlaethol yr urdd. aeth y gadair i meirion morris a'r goron i ffion eleri edwards. er mawr sioc i'w darllenwyr selog, gwerthwyd papurau'r times a'r sunday times i rupert murdoch, perchennog y sun a'r news of the world. teledu a radio yng nghymru roedd dadlau mawr ynglŷn â'r sianel gymraeg. yn y cyfamser penodwyd y prif swyddogion, gyda rheolwr bbc cymru, owen edwards, yn brif weithredwr a'r cyn-was suful, syr goronwy daniel, yn gadeirydd yr awdurdod. wedi blynyddoedd o lwyddiant mewn llyfr ac ar y radio, daeth the hitchhikers' guide to the galaxy ar y teledu. roedd stori douglas adams yn hynod o boblogaidd er fod y cast yn rhai anadnabyddus ar y pryd. ymddangosodd y cartŵn dangermouse am y tro cynta'. y gomedi newydd oedd hi-de-hi, wedi ei gosod mewn gwersyll tebyg i butlins ar ddiwedd y 50au. cymraes - ruth madoc - oedd gladys pugh, y llais oedd ar yr tannoy. roedd rheswm tros rwygo crys a throi'n wyrdd, wrth i'r incredible hulk ennill dilyniant selog. ac roedd dyn gwyrdd o fath arall yn boblogaidd hefyd gyda'r gwyddonydd brwdfrydig, david bellamy, yn chwilio am fywyd gwyllt yn bellamy's backyard safari. un o ddigrifwyr mwya' poblogaidd y cyfnod oedd russ abbot, gyda'i saturday madhouse - roedd yn byw y tu allan i wrecsam. ffilmiau tom cruise yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf mewn ffilm gyda brooke shields mewn ffilm o'r enw endless love. ymhlith ffilmiau'r flwyddyn, roedd: indiana jones and the raiders of the lost ark - y gynta' yng nghyfres indiana jones. superman ii. stir crazy - richard prior a gene wilder yn actio mewn comedi am ddau ddyn yn ceisio torri mewn i fanc, heb lawer o lwyddiant. for your eyes only - y 12fed ffilm james bond, gyda roger moore yn actio bond am y pumed tro. meryl streep oedd y wraig yn y ffilm o nofel john fowles, french lieutenant's woman. . ffilm brydeinig chariots of fire oedd enillydd mawr seremoni'r oscars gyda'i stori wir am ras yng ngêmau olympaidd 1924 ym mharis. roedd yna un ffilm gymraeg o bwys - o.g. gan gareth wynn jones. stori gan wil sam am berchennog garej (john pierce jones) yn cael ei dwyllo gan ei wraig fywiog (elliw haf) a huw handi-tŵls (dafydd hywel). chwaraeon yn 1981 llwyddodd clwb pêl-droed abertawe i gael eu dyrchafu i'r adran gyntaf, o dan arweiniad john toshack. roedden nhw wedi ennill dyrchafiad dair blynedd o'r bron a chafodd toshack ei wneud yn bersonoliaeth chwaraeon y flwyddyn yng nghymru. roedd yna ymgyrch lwyddiannus i atal taith rygbi tîm cymru i chwarae yn ne affrica, oherwydd gwrthwynebiad i apartheid. dechreuodd ymdrech fer i sefydlu rygbi'r gynghrair yng nghymru, gyda thîm o'r enw dreigiau glas caerdydd. am y tro cynta' ers chwe blynedd, wnaeth björn borg ddim ennill yn wimbledon wrth i'r americanwr john mcenroe fytheirio'i ffordd i fuddugoliaeth... a chael dirwy am ei ymddygiad. pêl-droed. yn y byd pêl-droed enillodd lerpwl gwpan ewrop wrth guro real madrid 1-0. alan kennedy oedd sgoriwr y gôl fuddugol. flwyddyn cyn rhyfel y falklands, dau archentwr a helpodd tottenham hotspur i ennill cwpan yr fa gan guro manchester city 3-2. enillodd colin jones o gorseinon bencampwriaethau paffio pwysau welter ewrop a'r gymanwlad a daeth y cymro arall, neville meade, yn bencampwr pwysau trwm prydain. daeth dau enw enwog i'r amlwg am y tro cynta' wrth i jayne torvill a christopher dean ennill pencampwriaeth y byd mewn dawnsio ar rew. enillodd steve davis bencampwriaeth snwcer y byd am y tro cynta', trwy guro'r cymro, doug mountjoy, yn y rownd derfynol. rasio ceffylau. roedd yna stori ramantus yn y grand national wrth i'r joci bob champion ennill ar aldaniti. roedd wedi goresgyn canser yn ystod y ddwy flynedd gynt. y ceffyl shergar oedd enillydd y derby... ond roedd enwogrwydd yn beryg. fe gafodd ei herwgipio yn 1983 a fu dim sôn amdano fyth wedyn. collodd ian botham gapteniaeth tîm criced lloegr, ond ef a gafodd y clod am ennill y lludw iddyn nhw, gan eu hachub ddwywaith. sgoriodd 149 heb fod allan yn y trydydd prawf, cymryd 5 am 1 ar un cyfnod yn yr un nesa' a sgorio 116 yn y pumed. gwyddoniaeth a thechnoleg ar ebrill y 12fed lansiwyd y llong ofod columbia o fflorida, ac fe fu'n cylchdroi'r byd 36 gwaith cyn dychwelyd yn ddiogel ddau ddiwrnod yn ddiweddarach. dyma'r llong ofod gynta' yr oedd modd ei defnyddio hi sawl gwaith. campwaith pensaernïol y flwyddyn oedd tŵr nat west yn llundain a ddaeth yn adeilad ucha' ewrop. roedd doctoriaid yn san fransisco, califfornia, yn meddwl eu bod wedi darganfod math newydd o lid yr ymennydd mewn pump dyn. mewn gwirionedd dyma'r tro cynta' i aids cael ei ddarganfod. yn y byd gêmau cyfrifiadur, gwnaeth cwmni 'sega' rhyddhau y gêm 'frogger' a ddaeth 'nintendo' allan â'r gêm lwyddiannus 'donkey kong'. datblygiad trafnidiaeth y flwyddyn oedd agor darn o draffordd yr m4 o amgylch pen-y-bont ar ogwr. bellach, dim ond un darn oedd ar ôl i orffen y ffordd o lundain i orllewin cymru. ffordd o fyw daeth y cwmni siopa next i fod ar ôl i deulu o leeds brynu degau o siopau kendall's er mwyn gwerthu dillad ffasiynol i fenywod yn rhad. ac mae pawb yn gwybod beth ddigwyddodd nesa'. daeth brechdanau wedi eu tostio yn boblogaidd wrth i gwmni breville ddechrau gwerthu peiriannau i'w gwneud nhw gartre'. erbyn 1982, roedd nifer o dan y gwely. peiriant bwyd arall byr ei oes oedd y peiriant gwneud sglodion a ddaeth i ffreuturoedd ar draws cymru. roedd i fod i greu sglodion da, blasus mewn 10 eiliad. sgidiau picsi oedd y ffasiwn mawr ymhlith merched - mae'n debyg fod mamau'n hoff ohonyn nhw hefyd oherwydd eu bod yn ymarferol a chynnes! cyflwynwyd cardiau ffôn er mwyn lleihau'r defnydd o arian mân. gan fod lluniau a logos gwahanol arnyn nhw, fe ddechreuodd rhai eu casglu. i blant, ddaeth y rheilffordd lego gyda'r trên yn rhedeg tros drac glas... neu tros ddynion bach plastig. does dim newydd dan haul... awgrymodd pwyllgor o aelodau seneddol fod eisiau codi morglawdd ar draws môr hafren i gynhyrchu ynni. arwydd o'r amserau (a chynnydd diweithdra) oedd fod 8,000 o bobol wedi cynnig am 300 o swyddi yn siop newydd asda yn abertawe. och a gwae! dechreuodd petrol gael ei werthu wrth y litr yn hytrach na'r galwyn ac roedd pawb yn amau fod hynny'n ffordd i godi'r pris. roedd yna gwyno hefyd wrth i bris cwrw godi 8c y peint - yn rhannol oherwydd y gyllideb ac yn rhannol wrth i'r bragwyr gymryd mantais o hynny. marwolaethau distawodd llais cymraeg cofiadwy - eiddo dai francis, y comiwnydd ac un o arweinwyr undeb y glowyr, gydag acen cwm dulais ar ei wefus. distawodd un o fflangellwyr y gymraeg hefyd, y nofelydd a'r dramodydd ffraeth o'r rhondda, gwyn thomas. collwyd dau gyn-archdderwydd - y cyfreithiwr brinley richards a llenor patagonia, r. bryn williams. cymro arall a fu farw oedd dr martyn lloyd jones, un o arweinwyr pwysica'r mudiad efengylaidd yng ngwledydd prydain. cafodd ei eni yng nghaerdydd cyn symud i fyw yn llangeitho yng ngheredigion. roedd cysylltiad cymreig hefyd gan a.j. cronin, nofelydd o'r alban, a fu'n feddyg yn ne cymru ac a ddaeth yn enwog am ei lyfr the citadel a oedd yn sôn am amgylchiadau caled y cymoedd. ymhlith marwolaethau eraill, roedd: bob marley - y cerddor reggae 36 mlwydd oed. jack warner - actor y gyfres heddlu dixon of dock green, a ddywedodd "evenin all" am y tro ola'. bill shankley - rheolwr chwedlonol clwb pêl-droed lerpwl a roddodd y tîm ar ei ffordd at fawredd yr 80au. ef a ddywedodd unwaith fod pêl-droed yn bwysicach na bywyd a marwolaeth. joe louis - 'the brown bomber' - y paffiwr a grafodd i guro'r cymro, tommy farr, mewn brwydr enwog yn 1937. moshe dayan - arweinydd milwrol o israel gyda'r patshyn dros ei lygad chwith. bill haley - ar ôl rocio rownd y cloc. alvar lidell - cyhoeddwr enwog i'r bbc yn ystod yr ail rhyfel byd.

Acceuil

suivante

bbc cymru'r byd - radio cymru - ffeithiau 1981  Middle East  CMSF annual report  WORLD PREMIERES  .::Politika - Siyaset Haberleri - Arstekin::.: 18.Nis.2007  Electronics 21  Ditched by DJs, page one in the US: Brunsdon’s cover coup as The ...  Spider-Man 3 Official Movie Blog: December 2006 Archives  Programme TV > Programme tele de la soirée du Vendredi 15 Juin ...  The Washington Monthly  Electronics 21  Ditched by DJs, page one in the US: Brunsdon’s cover coup as The ...  The Corsair: 6/3/07 - 6/10/07  Spider-Man 3 Official Movie Blog: December 2006 Archives  Untitled  Programme TV > Programme tele de la soirée du Vendredi 15 Juin ...  Aussie News & Views  flavorpill NYC  Voice123 - Voice Over Talents in Alphabetical Order  FILM.TV.IT Archivio alfabetico: VI  Neuerwerbungen der Hochschulbibliothek  Neuerwerbungen der Hochschulbibliothek  Where the Global Meets the Local: Aufzeichnungen aus dem Wohnzimmer*  Studies Journal of European  Chev Chelios (Jason Statham) is about to begin his morning with an ...  LA Weekly - Calendar Listings - West Hollywood - The Essential ...  MySpace  Palm Beach International Film Festival  “Shop Around the School”  The Santa Barbara Independent SBIFF 2007 Goes East  Films Cultes  NATIONAL TREASURE AND NICHOLAS CAGE  Today's Pix - Monday, 6.4 , 2007 - Page 4 - Military Photos  MVlib - Brazil:Livre certificated movies  MVlib - UK:PG certificated movies  × [ .. مملكه القلوب , حين يصبح عالم ...  Sex lies and 6 o’clock news « Frontier Former Editor  Donating - Donor Recognition  OPFOR: February 2007 Archives  Shishi  Titres diffusés commencant par la lettre D - Page 3 - Fluctuat.net  Jewish Film Archive Online  Critical Care Medicine - Fulltext: Volume 33(1) January 2005 p 270 ...  CINE: DVD y VIDEO  Interactivist Info Exchange International Action Center - "Peace ...  THE HIGH HAT CONTRIBUTORS  DAD’S ARMY, THE COMPLETE FIRST SERIES PLUS THE ‘LOST’ EPISODES OF ...  SeyrediyoruM.Com Popüler Kültür şarkı sözleri  Listology: My favorite movies, Top 1000  prologue DVD Movies Library,Download in DVD, DivX, iPod quality ...  TURKISH REMIX REMIXES MP3 VIDEO YUKLEME COMMUNITY  du Nord: June 2006  Reit- und Fahrverein Dülken-Viersen: Nennungen Winterturnier 2005  ESSENGER NQUIRER  Seznam novosti oktober 2005  LOVEFiLM: User collections - An Anthropologist's ...  Diários de Motocicleta  TV and the Internet: Pitfalls in Forecasting the Future  Upcoming Shows at Crystal Ballroom - Portland Music Calendar ...  diskothiq Peter Peter Hughes ...  Layout 1 (Page 1)